Gwefannau
Cymraeg
Modern.

Gwefannau dwyieithog, ymatebol sydd wedi’u teilwra ar gyfer busnesau o bob maint.

Amdanom Ni

Mae Gweddnewid yn fusnes teuluol o Bwllheli. Rydym yn cynnig gwefannau fforddiadwy gydag amrediad o brisiau, o wefannau pamffled neu ‘brochure’ syml ar gyfer busnesau bychan hyd at wefannau gyda nodweddion mwy pwerus i gwmnïau canolig neu fawr eu maint. Ein nod yw darparu gwefannau fforddiadwy i fusnesau a sicrhau eu bod ar gael yn y Gymraeg, gan bwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar wefannau Cymru. Mae ein gwefannau Cymraeg yn fforddiadwy heb gyfaddawdu ar ansawdd.

Gwefannau Cymraeg

Ein Gwasanaethau

Trosolwg o’r holl wasanaethau y gallwn gynnig i chi

Dylunio Gwefannau

Gwasanaeth dylunio gwefannau ar gyfer busnesau a grwpiau o bob maint.

Gwasanaeth Cywirdeb Iaith

Gwasanaeth cyfieithu a gwirio cywirdeb iaith ar gael.

Marchnata Eich Gwefan

Rydym am eich helpu i ddenu mwy o ymwelwyr trwy ddefnyddio SEO, dadansoddeg, a strategaethau marchnata ar-lein synhwyrol.

Cynnal A Chadw Eich Gwefan

Cewch adael yr ochr dechnegol i ni.

Systemau

Gall gwefan gynnig llawer mwy na lle i arddangos gwybodaeth. Wrth gyfuno’r elfennau cywir, gall fod yn offeryn pwerus ar gyfer eich busnes – boed yn derbyn archebion, yn gwerthu cynnyrch, yn cysylltu â chwsmeriaid, neu’n gwerthu tocynnau ar gyfer digwyddiad. Dewch i weld sut all ychwanegu nodweddion addas wella eich gwefan, gwella profiad y defnyddiwr, a’ch helpu i gyflawni nodau eich busnes.

Prosiect
Diweddar

Daeth Ruth atom yn gofyn i ni greu gwefan ar gyfer ei Airbnb, The Cwtch, ym Mhwllheli. Ein nod oedd arddangos harddwch ei chartref a’r ardal arfordirol o’i gwmpas ac ar yr un pryd caniatau ymwelwyr i anfon negeseuon a gwneud ymholiadau’n hawdd.

Cwestiynau Cyffredin

Faint mae eich gwasanaeth dylunio gwefannau yn gostio?

Mae ein cynllun prisio wedi’i deilwra i anghenion unigol pob prosiect. Mae’n dechrau ar £200 am gwefannau cyffredinol un iaith syml. Mae hyn yn cynnwys gwaith gosod y wefan a’r gwaith dilynol ar gyfer gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth yn unig. Am unrhyw ychwanegiadau pellach, bydd costau yn cynyddu’n dibynnu ar sawl nodwedd sydd gan eich gwefan.

Faint o amser mae hi'n cymryd i greu gwefan?

Mae’r amserlen ar gyfer creu gwefan yn amrywio yn unol â gofynion y prosiect. Mae modd cwblhau gwefannau syml mewn ychydig o wythnosau, ond gall prosiectau mwy cymhleth gymryd ychydig o wythnosau’n ychwanegol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cleientiaid i sefydlu amserlenni a cherrig milltir clir i sicrhau y byddwn yn cynnal ansawdd ac yn gweithio’n brydlon.

Allwch chi ddiweddaru'r wefan sydd gen i eisoes neu ai dim ond creu gwefannau newydd fyddwch chi?

Yn bendant! Rydym yn cynnig gwasanaethau ail-ddylunio a diweddaru gwefannau yn ogystal â chreu gwefannau newydd. P’un a ydych yn chwilio am ymddangosiad ffres, gwell perfformiad, neu ddiweddariadau i gyd-fynd â safonau gwe presennol, gallwn weithio ar eich gwefan bresennol i wella ei pherfformiad a’i hedrychiad.

Sut fyddwch chi'n sicrhau cywirdeb y Gymraeg ar fy ngwefan?

Mae cywirdeb iaith yn hynod bwysig. Mae ein tîm yn cynnwys cyfieithydd profiadol i sicrhau hyn. Cyn i’ch gwefan fynd yn fyw, bydd y cynnwys yn cael ei adolygu’n fanwl i sicrhau bod popeth wedi’i gyfieithu’n gywir ac yn addas, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gywirdeb iaith.

Pam WordPress?

Mae WordPress yn effeithiol ac yn ein galluogi i adeiladu gwefannau’n gyflym ac yn gosteffeithiol. Mae’n ddewis pwysig i ni oherwydd ei fod yn gyflym a diogel, ac yn  lleihau costau i’n cleientiaid. Mae rhai o’r brandiau mwyaf adnabyddus yn dewis WordPress, megis Disney Microsoft, a Playstation, sy’n dangos y grym a’r hyblygrwydd y mae’r platfform yn ei gynnig.

A fydd gennyf hawliau dros y wefan ar ôl ei chwblhau?

Bydd, pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau, ni fydd gennym ni unrhyw hawliau dros y wefan. Rydym yn cyflawni’r prosiect ar gyfer eich busnes, ac nid ydym yn hawlio unrhyw hawliau dros y cynnwys na’r dyluniad ar ôl iddi gael ei chwblhau. Rydym yn cynnig gwefannau sy’n eiddo i chi.

Pam ddylech chi ein dewis ni?

Mae ein cwmni wedi’i seilio ar gyfuniad unigryw o arbenigedd technegol ac arbenigedd iaith. Gyda gradd mewn peirianneg meddalwedd a phedair blynedd o brofiad yn y diwydiant TG, ynghyd â’n hymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg a helpu busnesau bach i dyfu, rydym yn cynnig atebion gweithredol, pwerus, a diogel. Mae ein prisiau cystadleuol a’n hymrwymiad i ansawdd yn golygu y byddwch chi’n derbyn gwasanaeth o’r safon uchaf.

Sut fyddwn ni'n gweithio gyda chi i greu gwefan?

Rydym yn dilyn proses syml ac effeithiol. Yn gyntaf, byddwn yn cynnal cyfarfod cychwynnol neu gyfnewid negeseuon e-bost i drafod eich anghenion ac dymuniadau. Wedyn, byddwn yn cyflwyno cynllun gwaith a dyddiadau allweddol. Wrth i’r gwaith ddod i ben, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf. Rydym bob amser yn ymdrechu i greu profiad cydweithredol a phroffesiynol i’n cleientiaid.

ydych chi'n Barod i Ddechrau'ch Prosiect?

Ymdrechwn I Ateb Pob Neges O Fewn Diwrnod.

Ffurflen Gysylltu