Ein Gwaith

Gwasanaethau

Trosolwg o’r holl gwasanaethau gallwn gynnig i chi.

Dylunio Gwefannau

Rydym yn arbenigo mewn creu gwefannau proffesiynol sydd wedi’u teilwra i anghenion eich busnes. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, rydym yn sicrhau bod eich gwefan yn edrych yn wych, yn gweithio’n ddi-dor, ac yn hawdd i’w defnyddio. P’un a ydych yn chwilio am wefan syml i hyrwyddo eich gwasanaethau neu blatfform mwy cymhleth ar gyfer e-fasnach, rydym yma i’ch helpu i sefyll allan ar-lein. Mae ein modd o weithio’n canolbwyntio ar adeiladu gwefannau sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr, yn gyflym, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaeth Iaith

Mae gennym gyfieithydd yn ein cwmni sy’n gallu cynnig gwasanaeth prawfddarllen a gwirio cynnwys Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â chyfieithu o’r naill iaith i’r llall. Mae’n hollbwysig fod y Gymraeg yn weladwy ac yn cael ei defnyddio ar wefannau yng Nghymru, gan ei bod yn fodd effeithiol o gysylltu â chwsmeriaid lleol a dangos ymrwymiad i’r iaith a’r diwylliant lleol. Rhan o’n model busnes yw hyrwyddo’r iaith a’i defnydd ar wefannau, a chreu amgylchedd lle gall cwsmeriaid deimlo’n gysurus a chael profiad digidol mwy cynhwysol.

Marchnatau Digidol

Rydym yn cynnig gwasanaethau marchnata digidol sy’n eich helpu i gyrraedd eich cynulleidfa darged ac i wella eich presenoldeb ar-lein. Drwy optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), rydym yn sicrhau bod eich gwefan yn cyrraedd safleoedd uwch ar Google, gan ddenu mwy o draffig organig. Yn ogystal, rydym yn dadansoddi data gyda Google Analytics i ddeall ymddygiad eich ymwelwyr ac i wneud gwelliannau strategol i’ch gwefan a’ch ymgyrchoedd marchnata. Gyda’n cymorth, bydd eich busnes yn tyfu ar-lein ac yn cyrraedd ei lawn botensial.

Cynnal A Chadw

Gyda’n gwasanaeth Cynnal a Chadw Gwefannau, rydym yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i gadw eich gwefan WordPress yn ddiogel, yn gyfredol ac yn rhedeg yn esmwyth – i gyd am ffi fisol fforddiadwy. Byddwn yn gofalu am ddiweddariadau meddalwedd, copïau wrth gefn rheolaidd, diogelwch, a newidiadau bach i gynnwys eich gwefan, gan arbed amser a straen i chi. Yn ogystal, rydym yn darparu cyfleuster lletya gwefan, rheoli’r parth, e-byst proffesiynol, ac SSL i sicrhau bod eich gwefan yn ddibynadwy ac yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Am ychydig o bunnoedd yn ychwanegol na’r hyn y byddai’n costio i chi gynnal eich gwefan eich hun, cewch dawelwch meddwl wrth i ni reoli popeth i chi.