Ein Gwaith

Amdanom Ni

Croeso

Croeso i’n tudalen Amdanom Ni! Rydym yn gwmni dylunio gwefannau yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau proffesiynol a chynhwysol i fusnesau bach, gan roi pwyslais arbennig ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Ein Profiad

Mae’r cwmni’n gyfuniad o ystod eang o brofiad ac arbenigedd. Gyda gradd mewn peirianneg meddalwedd a phedair blynedd o brofiad yn y maes technoleg gwybodaeth, rwy’n meddu ar y sgiliau technegol uchel sydd eu hangen i greu gwefannau safonol ac effeithiol.

Mae gan ein tîm gyfieithydd profiadol gydag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes. Bydd yn sicrhau bod pob gwefan yn cael ei chyfieithu’n gywir i’r Gymraeg neu’r Saesneg neu’n darllen dros unrhyw gynnwys i sicrhau cywirdeb iaith. Mae modd newid y math o iaith a ddefnyddir er mwyn gweddu i’ch busnes, gall fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol, yn ddifrifol neu’n hwyliog. Chi sydd biau’r dewis o ran ei chynnwys. 

Ein Cenhadaeth

Sefydlwyd y cwmni gyda’r bwriad clir o helpu busnesau bach i sefydlu presenoldeb effeithiol ar-lein heb iddynt fynd i gostau uchel. Rydym yn ymroddedig i helpu’r iaith Gymraeg i dyfu, gan gynnig gwasanaethau sy’n cyfuno creadigrwydd a chyflymder i greu atebion gweithredol ac effeithiol i fusnesau.

Cyfrifoldeb

Rydym yn deall fod yna nifer o gostau wrth rhedeg busnes a dymunwn gynnig prisiau cystadleuol i’ch galluogi i gael gwefan. Rydym eisiau darparu atebion cyflym, pwerus, a diogel i’n cleientiaid.

Cysylltwch â Ni

Byddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ddarparu gwefan ar eich cyfer. Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich anghenion a dyheadau ac i gael dyfynbris am ein gwasanaethau.

Diolch am ymweld â’n tudalen! Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar eich prosiect.

ydych chi'n Barod i Ddechrau'ch Prosiect?

Ymdrechwn I Ateb Pob Neges O Fewn Diwrnod.

Ffurflen Gysylltu